Amdanom Ni
Dr Leandro Beltrachini
Mae Dr Leandro Beltrachini yn Uwch-ddarlithydd yng Nghanolfan Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) ac yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth y brifysgol. Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar ffiseg gyfrifiannol wedi ei chymwyso i ddelweddau meddygol, yn enwedig delweddu cyseiniant magnetig (MRI) ac electro/magnetoenceffalograffi (E/MEG). Mae wrthi’n dysgu Cymraeg fel dechreuwr, a bellach yn gallu gwahaniaethu rhwng ‘ch’ ac ‘ll’.
Dr Mara Cercignani
Mae’r Athro Mara Cercignani yn Bennaeth MRI yng Nghanolfan Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) ac yn Ysgol Seicoleg y brifysgol. Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu a chymhwyso technegau MRI arbenigol ar gyfer deall yr ymennydd dynol yng nghyd-destun iechyd ac afiechyd. Symudodd i Gymru’n ddiweddar ond nid yw’r siarad Cymraeg eto. Mae’n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn ei helpu i ddysgu rhagor am yr iaith Gymraeg a’i diwylliant.
Dr Andreas Papageorgiou
Mae Dr Andreas Papageorgiou yn Gydymaith Ymchwil yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Prifysgol Caerdydd. Mae'n seryddwr sy'n arbenigo mewn ymyriadureg radio a delweddu sgan-isgoch a sbectrosgopeg. Ei brif weithgaredd gwyddonol yw diffinio, gweithredu a gweithredu teithiau telesgop gofod. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar daith nodweddu exoplanet ESA ARIEL, sydd i’w lansio yn 2029. Yn ddiweddar cwblhaodd gwrs Cymraeg i ddechreuwyr ac mae’n gyffrous iawn i symud ymlaen i’r lefel nesaf.
Dr Jonathan Morris
Mae Dr Jonathan Morris yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar acenion siaradwyr Cymraeg a sut mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar sut mae rhywun yn siarad. Mae ganddo ddiddordeb mewn sut mae siaradwyr a dysgwyr yn defnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd gwahanol a sut maent yn teimlo am eu hieithoedd.
Dr Iwan Wyn Rees
Mae Dr Iwan Wyn Rees yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar agweddau amrywiol ar y tafodieithoedd Cymraeg, yng Nghymru yn ogystal ag yn y Wladfa Gymreig yn Nhalaith Chubut, yr Ariannin. Mae’n ymddiddori hefyd yn y modd y caffaelir y Gymraeg fel ail iaith, ymhlith siaradwyr o gefndiroedd Saesneg a Sbaeneg fel ei gilydd.
Dr Ivor Simpson
Mae Dr Ivor Simpson yn Ddarlithydd mewn Deallusrwydd Artiffisial yn Adran Gwybodeg, Prifysgol Sussex. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu modelau dysgu peirianyddol i ddadansoddi data delweddu, yn enwedig defnyddio MRI i ddeall sut mae afiechyd yn effeithio ar swyddogaeth ac anatomeg yr ymennydd dynol. Nid yw'n siarad Cymraeg ar hyn o bryd, er ei fod yn rhannu ei enw â thrên stêm Cymreig a ymdangosodd mewn cartŵn enwog.