Ymchwil
Mae gan y Gymraeg rai seiniau a phatrymau ynganu sy’n anghyffredin yn y Saesneg ac mewn ieithoedd eraill. Gall y rhain felly achosi anawsterau i ddysgwyr yr iaith. Yn y prosiect hwn, rydym yn taflu goleuni newydd ar ynganiad amrywiadau o’r Gymraeg drwy ddefnyddio’r dechnoleg MRI ddiweddaraf yng nghanolfan fyd-enwog CUBRIC (Canolfan Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd).
Yn fwy penodol, rydym yn defnyddio MRI er mwyn cynhyrchu fideos o symudiad y tafod a rhannau eraill o’r llwybr llais wrth i siaradwyr gynhyrchu amrywiadau tafodieithol gwahanol ar y Gymraeg wrth ddarllen rhestr o eiriau a luniwyd yn arbennig ar gyfer y prosiect hwn. Defnyddir gan hynny ddelweddau a recordiadau o leisiau cyfranogwyr ar gyfer cynhyrchu fideos sy’n dangos, mewn modd cwbl newydd, sut y mae seiniau nodweddiadol o’r Gymraeg yn cael eu creu.
Heriau wrth ddysgu Cymraeg
O safbwynt ynganu’r Gymraeg, gall anawsterau amrywiol eu natur godi ymhlith dysgwyr sy’n caffael y Gymraeg fel ail iaith. Mewn rhai achosion, gall y rhain effeithio ar allu dysgwyr i gyfathrebu’n effeithiol y tu allan i’r ystafell ddosbarth, neu hyd yn oed i integreiddio’n llwyddiannus i gylchoedd neu gymunedau Cymraeg eu hiaith.
Gellir grwpio seiniau Cymraeg a all fod yn heriol fel a ganlyn:
- Ffonemau (neu seiniau) nad ydynt yn gyffredin yn y rhan fwyaf o amrywiadau Saesneg, e.e. “ch” [χ] ac “ll” [ɬ]
- Llafariaid syml sy’n cael eu hynganu fel deuseiniaid yn aml yn Saesneg, e.e. “ô” (o’i chymharu â’r llafariad yn y no Saesneg)
- Deuseiniaid sy’n absennol yn y Saesneg, e.e. “yw”
- Rheolau ffonolegol sy’n wahanol i’r rhai a geir mewn amrywiadau Saesneg, e.e. y defnydd cyson o “r” ar ôl llafariaid yn y Gymraeg
- Problemau sy’n gysylltiedig ag amwysedd yn system sillafu’r Gymraeg, e.e. y defnydd anghyson o /g/ mewn geiriau sydd ag “ng” yn ysgrifenedig
Sut y gall y prosiect hwn helpu’r dysgu
Mae defnyddio technoleg MRI ar gyfer delweddu symudiad y tafod a rhannau eraill o’r llwybr llais yn ystod cynhyrchiant lleferydd wedi ei wneud yn helaeth mewn ieithoedd eraill, ond dyma’r prosiect cyntaf o’r math hwn sy’n canolbwyntio ar y Gymraeg.
Gan fod yr adnoddau a grëwyd ar gyfer y prosiect hwn yn cynnwys animeiddiadau o ansawdd uchel wedi eu seilio ar ddata MRI, dylent allu rhoi syniad cliriach a mwy sgematig i ddysgwyr y Gymraeg o’r modd o ynganu seiniau Cymraeg yn llwyddiannus. Byddwn felly yn archwilio posibiliadau o ran sut y gall y fideos newydd a gafwyd nid yn unig helpu dysgwyr i ddarganfod ffyrdd newydd o feistroli elfennau cymhleth o ynganiad y Gymraeg, ond hefyd diwtoriaid Cymraeg wrth iddynt ddatblygu mecanweithiau newydd ar gyfer trosglwyddo cysyniadau seinegol i’w dysgwyr.