Pob enghraifft
<c> a <ch>
Gallwn weld y gwahaniaeth rhwng cynhyrchu dwy sain yn y Gymraeg yn y fideo hwn. Y sain gyntaf yw [k] sy’n cael ei hysgrifennu fel <c> mewn geiriau fel ‘ci’ a ‘cwtsh’. [χ] yw’r ail sain sy’n cael ei hysgrifennu fel <ch> mewn geiriau fel ‘chi’ a ‘chwerw’. Pan fo’r siaradwr yn dweud y cytseiniaid cyntaf yn y geiriau ‘ci’ a ‘cwtsh’, sylwch fod cefn y tafod yn cychwyn yn uchel yn y geg ac yn symud ymlaen yn eithaf cyflym. Hefyd, mae bwlch rhwng y tafod a chefn y geg. Pan fo’r siaradwr yn dechrau dweud y cytseiniaid cyntaf yn y geiriau ‘chi’ a ‘chwerw’, nid yw cefn y tafod mor uchel yn y geg ond mae llawer ymhellach yn ôl ac yn aros yno yn hirach.
Newid yn ansawdd y llafariad <y>
Mae’r llafariad mewn geiriau fel mynydd a hyn yn newid pan fyddwn ni’n creu greu geiriau hirach (felly, mynyddoedd, hynny).
Yn y clip, gallwch chi weld bod y llafariaid yn y geiriau hirach yn is. Hynny yw, mae’r tafod yn is yn y geg.
<l> ac <ll>
Gallwch wrando ar ddau siaradwr yma. Mae’r dyn yn dod o Ogledd Cymru ac mae’r fenyw’n dod o Dde Cymru. Yn y clipiau, byddwch chi’n clywed enghreifftiau o eiriau sy’n cynnwys <l> ac <ll>. Ffrithiolyn ochrol gorfannol di-lais yw enw’r sain <ll> ac mae hi’n sain anghyffredin iawn yn ieithoedd y byd yn gyffredinol.
Wrth edrych ar y clipiau, cymharwch y geiriau sy’n cynnwys <l> a’r geiriau sy’n cynnwys <ll>. Byddwch chi’n gweld bod cyfran fwy helaeth o’r tafod (llafn y tafod) yn nesáu at dop y geg wrth ddweud <ll>. Mae hyn yn wahanol i <l> lle mai dim ond blaen y tafod sy’n nesáu at dop y geg.
Mae gwahaniaeth rhwng y modd y mae’r ddau siaradwr yn dweud <l> hefyd ond does dim angen poeni am y gwahaniaeth hwn os ydych chi’n dysgu’r iaith! Yn y gogledd, mae’r tafod yn codi tuag at gefn y geg. Yn y de, dydy’r tafod ddim yn codi sy’n gwneud i’r <l> swnio’n wahanol yn y ddwy ardal. Ydych chi’n gallu clywed y gwahaniaeth?
Y term cyffredin am <l> y gogledd yw 'l-dywyll'. Ar y llaw arall, gellir defnyddio'r termau 'l-olau' neu 'l-glir' ar gyfer disgrifio ansawdd cyffredin y sain hon yn y de.
-io ar ddiwedd berfau
Mae’r terfyniad berfol-ioyn gyffredin iawn yn y Gymraeg. Sylwch fod y sain olaf yn un weddol agored (hynny yw, mae'r geg yn agor a bwlch digon amlwg i'w weld rhwng y ddwy wefus) felly mae’r tafod yn disgyn ar ddiwedd y gair.
<ch> ac <ll>
Mae’r siaradwr gwrywaidd (ar y chwith) yn dod o’r gogledd, a daw’r un fenywaidd (ar y dde) o’r de.
Gallwn weld yma y gwahaniaeth rhwng y modd y cynhyrchir dwy sain Gymraeg sy’n gallu bod yn heriol. Y sain gyntaf yw [ɬ] sy’n cael ei hysgrifennu fel <ll> mewn geiriau fel “llong” a “felly”. Yr ail sain yw [χ] sy’n cael ei hysgrifennu fel <ch> mewn geiriau fel ‘chi’ a ‘chwerw’.
Byddwch chi’n gweld bod cyfran helaeth o’r tafod (llafn y tafod) yn nesáu at dop y geg wrth ddweud <ll>. Ar y llaw arall, pan fo’r siaradwr yn ynganu <ch> ar ddechrau geiriau ‘chi’ a ‘chwerw’, mae’r tafod ymhellach yn ôl o lawer.
Hyd llafariaid
Gellid defnyddio'r fideo hwn er mwyn dangos y gwahaniaethau rhwng hyd llafariaid. Mae’r fideo yn dangos siaradwr Cymraeg yn cynhyrchu’r geiriau ‘dal’, ‘tal’, a ‘del’ (sydd â llafariaid byr) ac yna’r gair ‘tâl’ sydd â llafariad hir. Pan fo’r siaradwr yn dweud y llafariad yn y gair ‘tâl’, mae’r gwefusau ar wahân yn hirach ac mae’n cymryd mwy o amser i’r tafod gyrraedd man gorffwys.
Gogledd vs. De
Mae’r enghraifft hon yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng y llafariaid mewn geiriau fel ‘ti’ a ‘tŷ’ yng ngogledd Cymru, fel sydd i’w weld gan y siaradwr ar y dde sydd o’r gogledd-orllewin. Yn ne Cymru ar y llaw arall, mae’n arferol i lafariaid y geiriau hyn swnio'n debyg, fel sydd i’w weld gan y siaradwr ar y chwith sy’n dod o’r de-ddwyrain. Mae hyn yn dangos bod gan dafodieithoedd y gogledd lafariad ychwanegol fel rheol nad yw'n bresennol yn y Saesneg, sef /ɨː/ (y llafariad gaeedig ganol).
Ar gyfer pob llafariad sy’n cael eu defnyddio gan y ddau siaradwr, mae blaen y tafod o dan y dannedd blaen a'r gwefusau ac mae corff y tafod wedi'i siapio fel cromen.
Yn lleferydd y gogleddwr (ar y dde/gwaelod), safle'r tafod mewn perthynas â tho’r geg (y daflod) yw’r prif wahaniaeth rhwng y ddwy lafariad. Yn achos y llafariaid yn y geiriau ‘ti’, ‘mil’ a ‘sir’, mae’r tafod yn agos iawn i do’r geg. Yn achos y llafariaid yn ‘tŷ’, ‘mul’ a ‘sur’, mae’r tafod yn llai agos i’r to a’r geg yn fwy agored. Ar y llaw arall, yn iaith y deheuwr (ar y chwith/brig), mae’r tafod yn agos iawn i do’r geg ym mhob gair gan mai’r llafariad flaen /iː/ sy’n cael ei defnyddio bob tro.
Ar ôl ichi gymharu <i> ag <u>/ <ŷ> o fewn lleferydd y gogleddwr, beth am ichi fynd ati i gymharu’r ffordd y mae’r siaradwr deheuol (ar y chwith) a’r un gogleddol (ar y dde) yn ynganu’r geiriau ‘tŷ’, ‘mul’, a ‘sur’ yn wahanol i’w gilydd? Ydych chi’n sylwi ar wahaniaeth yn safle’r tafod mewn perthynas â’r daflod (to’r geg) eto?