<l> ac <ll>

Chwarae'r Ddau
  • Manylion

Gallwch wrando ar ddau siaradwr yma. Mae’r dyn yn dod o Ogledd Cymru ac mae’r fenyw’n dod o Dde Cymru. Yn y clipiau, byddwch chi’n clywed enghreifftiau o eiriau sy’n cynnwys <l> ac <ll>. Ffrithiolyn ochrol gorfannol di-lais yw enw’r sain <ll> ac mae hi’n sain anghyffredin iawn yn ieithoedd y byd yn gyffredinol.

Wrth edrych ar y clipiau, cymharwch y geiriau sy’n cynnwys <l> a’r geiriau sy’n cynnwys <ll>. Byddwch chi’n gweld bod cyfran fwy helaeth o’r tafod (llafn y tafod) yn nesáu at dop y geg wrth ddweud <ll>. Mae hyn yn wahanol i <l> lle mai dim ond blaen y tafod sy’n nesáu at dop y geg.

Mae gwahaniaeth rhwng y modd y mae’r ddau siaradwr yn dweud <l> hefyd ond does dim angen poeni am y gwahaniaeth hwn os ydych chi’n dysgu’r iaith! Yn y gogledd, mae’r tafod yn codi tuag at gefn y geg. Yn y de, dydy’r tafod ddim yn codi sy’n gwneud i’r <l> swnio’n wahanol yn y ddwy ardal. Ydych chi’n gallu clywed y gwahaniaeth?

Y term cyffredin am <l> y gogledd yw 'l-dywyll'. Ar y llaw arall, gellir defnyddio'r termau 'l-olau' neu 'l-glir' ar gyfer disgrifio ansawdd cyffredin y sain hon yn y de.

Felly, sut y mae hyn yn gweithio?

Hoffech chi weld sut yr aethom ati i sganio ein cyfranwyr?

Darganfod Mwy
Dolenni

Pwysig: Trwy uwchlwytho’r data ar y wefan a/neu eu defnyddio, rydych chi’n cytuno i’r gofynion a amlinellir yma

Hawlfraint 2022 Watch your Welsh / Gwylia dy dafod. Ariennir y prosiect gan gynllun Arloesedd i Bawb (Prifysgol Caerdydd)