- Manylion
Mae’r enghraifft hon yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng y llafariaid mewn geiriau fel ‘ti’ a ‘tŷ’ yng ngogledd Cymru, fel sydd i’w weld gan y siaradwr ar y dde sydd o’r gogledd-orllewin. Yn ne Cymru ar y llaw arall, mae’n arferol i lafariaid y geiriau hyn swnio'n debyg, fel sydd i’w weld gan y siaradwr ar y chwith sy’n dod o’r de-ddwyrain. Mae hyn yn dangos bod gan dafodieithoedd y gogledd lafariad ychwanegol fel rheol nad yw'n bresennol yn y Saesneg, sef /ɨː/ (y llafariad gaeedig ganol).
Ar gyfer pob llafariad sy’n cael eu defnyddio gan y ddau siaradwr, mae blaen y tafod o dan y dannedd blaen a'r gwefusau ac mae corff y tafod wedi'i siapio fel cromen.
Yn lleferydd y gogleddwr (ar y dde/gwaelod), safle'r tafod mewn perthynas â tho’r geg (y daflod) yw’r prif wahaniaeth rhwng y ddwy lafariad. Yn achos y llafariaid yn y geiriau ‘ti’, ‘mil’ a ‘sir’, mae’r tafod yn agos iawn i do’r geg. Yn achos y llafariaid yn ‘tŷ’, ‘mul’ a ‘sur’, mae’r tafod yn llai agos i’r to a’r geg yn fwy agored. Ar y llaw arall, yn iaith y deheuwr (ar y chwith/brig), mae’r tafod yn agos iawn i do’r geg ym mhob gair gan mai’r llafariad flaen /iː/ sy’n cael ei defnyddio bob tro.
Ar ôl ichi gymharu <i> ag <u>/ <ŷ> o fewn lleferydd y gogleddwr, beth am ichi fynd ati i gymharu’r ffordd y mae’r siaradwr deheuol (ar y chwith) a’r un gogleddol (ar y dde) yn ynganu’r geiriau ‘tŷ’, ‘mul’, a ‘sur’ yn wahanol i’w gilydd? Ydych chi’n sylwi ar wahaniaeth yn safle’r tafod mewn perthynas â’r daflod (to’r geg) eto?
Felly, sut y mae hyn yn gweithio?
Hoffech chi weld sut yr aethom ati i sganio ein cyfranwyr?
Darganfod Mwy